Cwestiynau Cyffredin

Isod fe welwch rai cwestiynau sy’n cael eu gofyn gan gwsmeriaid CISAS yn rheolaidd, a'r atebion yr ydym wedi'u darparu er mwyn rhoi gwybodaeth.

1. Ble alla i gael manylion y cwmnïau sy'n aelodau o CISAS?
2. A oes nodiadau canllaw ar gael sy'n esbonio beth ydy CISAS a beth y gall ei wneud?
3. A ganiateir unrhyw gŵyn yn erbyn aelod-gwmni?
4. Pwy gaiff gwyno?
5. Sut y dylwn i gwyno?
6. Ydy'r wyth wythnos yn dechrau pan fydda i'n dweud wrthyn nhw fod gen i broblem neu pan fydda i'n cwyno'n ffurfiol wrth y cwmni?
7. Faint mae'n ei gostio i gwyno?
8. Mi welaf y gallwch wneud cais ar-lein, ydy hynny'n wahanol i wneud cais drwy'r post?
9. Sut y bydda i'n gwybod beth i'w yrru i CISAS pan fydda i'n gwneud cais?
10. Sut mae CISAS yn trin fy nghwyn?
11. Beth os nad ydw i'n hoffi penderfyniad CISAS?
12. Pwy ydy IDRS Ltd?
13. Beth os bydd y cwmni a minnau'n penderfynu setlo'r achos?
14. Faint o amser fydd hi'n ei gymryd i CISAS setlo fy anghydfod?
15. A fydda i'n gweld popeth y mae'r cwmni'n ei ddweud amdanaf?
16. Nid yw fy nghwmni'n aelod. Lle ddylwn i fynd nesaf?
17. Rwy'n cael trafferth llenwi ffurflenni. A wnewch chi helpu?
18. Beth os oes gen i gŵyn am CISAS?
19. Ydy CISAS wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Diogelu Data 1998?
20. Oes gennych chi unrhyw ddolenni defnyddiol eraill?Ble alla i gael manylion y cwmnïau sy’n aelodau o CISAS?


Mae'r rhestr lawn o'n haelodau i'w chael ar ein tudalen aelodau. Mae aelodaeth CISAS yn tyfu'n gyflym ac felly mae’n werth edrych ar y dudalen yn rheolaidd. Os yw cwmni’n aelod, bydd yn cael ei ddangos ar y dudalen aelodau. Os bydd cwmni’n dweud ei fod yn aelod ond ei enw heb fod ar y dudalen, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
 
A oes nodiadau canllaw ar gael sy'n esbonio beth ydy CISAS a beth y gall ei wneud?
Oes. Mae gennym nodiadau canllaw a rheolau manwl sydd wedi derbyn y Nod Grisial gan yr Ymgyrch Plain English.

A ganiateir unrhyw gŵyn yn erbyn aelod-gwmni?
Na, dim ond mewn rhai amgylchiadau y gallwch gwyno, a’r rheini o fewn cwmpas CISAS. Mae’r amgylchiadau hyn ar dudalennau tri a phedwar y nodiadau canllaw.

Pwy gaiff gwyno?
Gallwch ddefnyddio CISAS os ydych chi’n ddefnyddiwr neu’n fusnes bach a chwyn heb ei datrys yn erbyn aelod o CISAS, ond dim ond os ydych yn gwsmer i’r aelod hwnnw. Yn ôl diffiniad Ofcom, y rheolydd, busnes bach yw busnes sydd â 10 neu lai o weithwyr. Os ydych chi’n fusnes â mwy na deg gweithiwr, ac yn hawlio mwy na £5,000, efallai y gallwch ddefnyddio gwasanaeth CISAS Plus.

Sut y dylwn i gwyno?
Dylech yn gyntaf ddweud wrth y cwmni fod gennych broblem sy’n ymwneud â nhw. Bydd gan y cwmni wedyn hyd at wyth wythnos i geisio setlo’r broblem honno gyda chi neu anfon llythyr ‘methu â chytuno’ atoch a fydd yn eich cyfeirio chi atom ni. Os dowch atom ni cyn mynd at y cwmni, ni fyddwn yn gallu delio â'ch cwyn a byddwn yn eich cyfeirio at y cwmni.

Os bydd mwy nag wyth wythnos wedi mynd heibio ers i chi ddweud wrth y cwmni am eich problem, a'ch cwyn dal heb ei datrys er boddhad i chi, gallwch wedyn ddod yn syth atom ni.

Mewn rhai amgylchiadau, os yw’ch cwmni'n aelod o ISPA (Cymdeithas Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd), efallai y gallwch ofyn i ISPA geisio setlo’r anghydfod cyn dod atom ni. Mae gwasanaeth ISPA yn rhad ac am ddim hefyd ac mae'n llwyddiannus iawn.

Os nad ydych wedi cwyno wrth eich cwmni eto, dylech gael manylion sut i gwyno wrthynt naill ai ar eu gwefan, yn eu Cod Ymarfer, neu yn eich telerau ac amodau chi.

’Ydy'r wyth wythnos yn dechrau pan fydda i’n dweud wrthyn nhw fod gen i broblem neu pan fydda i'n cwyno'n ffurfiol wrth y cwmni? 
Mae’r wyth wythnos yn rhedeg o’r dyddiad y byddwch yn cwyno, gall hwn fod ar lafar neu yn ysgrifenedig, er mae’n debyg y byddai'n well gwneud cwyn ysgrifenedig gan y bydd gennych gofnod wedyn o'ch cwyn, gan nad yw pob cwmni'n cadw cofnodion o alwadau ffôn. Mae "yn ysgrifenedig" yn cynnwys drwy’r e-bost.

Faint mae’n ei gostio i gwyno?
Y cwmni sy’n talu cost mynd â chais drwy CISAS, a'r unig gost fydd gennych chi fydd paratoi a chyflwyno'ch achos, er enghraifft, llungopïo a phostio.
 
Mi welaf y gallwch wneud cais ar-lein, ydy hynny'n wahanol i wneud cais drwy'r post?
Yr unig wahaniaeth rhwng gwneud cais ar-lein a thrwy’r post yw y gall fod yn fwy hwylus i chi wneud cais ar-lein. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych am gymryd eich amser yn llenwi’r ffurflen gais a bod yr holl dystiolaeth gennych ar ffurf electronig. Ond os ydych yn gwneud cais ar-lein, dydy hynny ddim yn golygu y bydd yn rhaid i chi barhau ar-lein. Gallwch ddewis defnyddio'r post, yr e–bost neu ffonio yn ddiweddarach.
 
Sut y bydda i’n gwybod beth i'w yrru i CISAS pan fydda i’n gwneud cais?
Byddwn yn rhoi ffurflen gais i chi sy’n cynnwys rhestr wirio i ddweud wrthych pa fath o wybodaeth y bydd ei hangen arnom.

Sut mae CISAS yn trin fy nghwyn?
Byddwn yn gweithredu fel blwch postio ac yn casglu gwybodaeth oddi wrthych chi a'r cwmni.  Byddwn wedyn yn penodi dyfarnwr annibynnol a fydd yn darllen y dogfennau ac yn gwneud penderfyniad.  Os bydd y dyfarnwr angen rhagor o wybodaeth efallai y bydd yn cysylltu â chi dros y ffôn, yr e-bost neu ffacs a bydd y dyfarnwr yn rhoi copi o'r wybodaeth i'r parti arall.
 
Beth os nad ydw i'n hoffi penderfyniad CISAS?
Os ydych yn anhapus â phenderfyniad y dyfarnwr gallwch ei wrthod.  Dim ond os byddwch yn derbyn y penderfyniad o fewn chwe wythnos i wybod beth yw'r penderfyniad hwnnw y bydd yn rhaid cydymffurfio â phenderfyniad y dyfarnwr.  Does dim modd apelio yn erbyn y penderfyniad, dim ond ei dderbyn neu ei wrthod gennych chi – os byddwch yn derbyn mae'n rhaid i’r cwmni gymryd y camau gofynnol.

Pwy ydy IDRS Ltd?
Mae CISAS yn cael ei weinyddu’n annibynnol gennym ni, IDRS Ltd. Rydym yn is-gwmni ym mherchnogaeth lwyr Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr, corff aelodaeth blaenaf y byd i weithwyr proffesiynol ym maes datrys anghydfodau drwy ddulliau amgen, gyda dros 11,000 o aelodau mewn rhagor na 90 gwlad.  Fel rhan o Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr (CIArb) mae gennym dros 30 mlynedd o brofiad yn darparu gwasanaethau gwneud iawn annibynnol ar gyfer defnyddwyr.

Beth os bydd y cwmni a minnau'n penderfynu setlo'r achos?
Mae gan y naill barti neu’r llall yr hawl i gychwyn trafodaethau ar gyfer setlo’r anghydfod unrhyw bryd cyn i’r dyfarnwr wneud penderfyniad.
Trafodaethau preifat fydd y rhain rhwng y partïon a dylech ohebu'n uniongyrchol â’r cwmni ac nid trwom ni. Os byddwch yn setlo, bydd angen i’r cwmni adael inni wybod yn ysgrifenedig a byddwn yn cysylltu â chi i wneud yn siŵr eich bod wedi setlo.

Cofiwch, os byddwch yn setlo a’r cwmni wedyn yn peidio â chymryd y camau y cytunwyd arnynt, dylech roi gwybod i ni ac efallai y gallwn ailagor yr achos.   Gallwch hefyd fynd â’r cwmni i’r llys.

Faint o amser fydd hi'n ei gymryd i CISAS setlo fy anghydfod?
Y targed sydd wedi’i osod gan Ofcom yw chwe wythnos o dderbyn y cais i roi gwybod i’r partïon beth yw'r penderfyniad.  Anelwn at gwblhau 88% o’r holl achosion o fewn chwe wythnos. Cewch chwe wythnos arall i benderfynu a ydych am dderbyn y penderfyniad neu beidio.  Dengys ymchwil fod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr sy'n derbyn y penderfyniad (80% o ddefnyddwyr) yn gwneud hynny o fewn 10 diwrnod i dderbyn y penderfyniad.  Mae'n werth cofio hefyd bod oddeutu 6 o bob 10 achos yn setlo yn ystod y drefn ddyfarnu.

A fydda i'n gweld popeth y mae'r cwmni'n ei ddweud amdanaf?
Byddwch. Un o brif nodweddion CISAS yw’r ffaith ei fod yn dryloyw ac mae’r ddau barti’n gweld popeth a gyflwynir gan y parti arall ac yn cael y cyfle i roi sylwadau arnynt.

Nid yw fy nghwmni’n aelod. Lle ddylwn i fynd nesaf?
Os nad yw eich cwmni'n aelod o CISAS, efallai ei fod yn aelod o Otelo neu efallai nad yw’n aelod eto o wasanaeth datrys anghydfodau drwy ddulliau amgen cymeradwy. Os felly, dylech ei gyfeirio at Ofcom.

Rwy'n cael trafferth llenwi ffurflenni. A wnewch chi helpu?
Wrth gwrs. Mae ein staff ar gael i helpu i lenwi ffurflenni. Gellir cael rhagor o help gan Gyngor Ar Bopeth a grwpiau eraill sy'n helpu defnyddwyr y mae eu manylion ar gael ar y wefan Advice Now.
 
Beth os oes gen i gŵyn am CISAS? 
Gallwch gael ein trefn gwyno oddi wrthym.

Ydy CISAS wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Diogelu Data 1998?
Mae IDRS Ltd sy’n gyfrifol am weinyddu CISAS wedi’i gofrestru o dan Ddeddf Diogelu Data 1998.

 

Oes gennych chi unrhyw ddolenni defnyddiol eraill?

Oes. Efallai y bydd y gwefannau canlynol o ddiddordeb i chi:

Independence Integrity Impartiality

it was a huge relief to have things resolved by you so quickly and efficiently