Gwybodaeth i gwsmeriaid

Gwybodaeth i gwsmeriaid
(Ar gyfer ceisiadau a wnaed ar neu ar ôl 22 Ionawr 2011)

Cyflwyniad

Mae CISAS yn gynllun a gymeradwyir gan Ofcom y gall unigolion a busnesau bychain (un â 10 neu lai o weithwyr) ei ddefnyddio i ddatrys eu hanghydfodau â chwmnïau sy'n aelod o'r cynllun ('aelod-gwmnïau'). Mae CISAS yn wasanaeth annibynnol am ddim a redir gennym ni, IDRIS Ltd.  Yr unig gostau y mae’n bosibl y byddai rhaid i chi eu talu yw costau'r galwadau ffôn a wnewch inni (ar gyfraddau safonol), costau llungopïo, neu gostau postio’n gysylltiedig â llenwi’r ffurflenni a darparu dogfennau. Nid ydych yn gyfrifol am unrhyw gostau a geir gan gwmni.

Am restr lawn o’r cwmnïau sy'n aelodau o'r cynllun, neu i wneud cais, ewch i  www.cisas.org.uk.

Achos CISAS nodweddiadol

Siart llif o achos nodweddiadol

Rydych yn llenwi’r ffurflen gais ac yn ei hanfon atom, gyda'ch dogfennau ategol.
Rydyn ni’n anfon copi o’ch cwyn i'r cwmni ac yn rhoi 14 dwrnod iddynt i ymateb.
Rydyn ni'n anfon ymateb y cwmni atoch chi ac yn rhoi saith niwrnod i chi i ymateb.
O fewn tair wythnos i dderbyn eich sylwadau, bydd y dyfarnwr yn gwneud penderfyniad a byddwn ni yn ei anfon atoch chi ac i'r cwmni.
Rhaid i chi ddweud wrthym o fewn chwe wythnos a ydych am dderbyn neu wrthod y penderfyniad.
Os derbyniwch y penderfyniad, rhaid i'r cwmni gydymffurfio â’r penderfyniad hwnnw o fewn pedair wythnos.
Os gwrthodwch y penderfyniad, does dim rhaid i’r cwmni gadw ato. Ond byddwch yn gallu mynd â’ch cwyn i lys o hyd.
Os dywedwch wrthym nad yw’r cwmni wedi cadw at y penderfyniad, byddwn yn ei atgoffa ac o bosib yn cymryd camau yn ei erbyn.
Os na ddywedwch wrthym beth yr ydych am i ni ei wneud am y penderfyniad o fewn chwe wythnos, yna does dim rhaid i’r cwmni gadw ato a byddwn yn cau’r achos.

 

Rhai cwestiynau ac atebion

Mae gennyf gŵyn am gwmni sydd wedi cofrestru gyda CISAS – beth ddylwn i ei wneud?
Rhaid i chi roi cyfle i’r cwmni ddatrys eich cwyn cyn i chi wneud cais i ddefnyddio CISAS.  Gallwch wneud hyn drwy gysylltu ag adran gwynion y cwmni.  Gallwch wneud cais i ddefnyddio CISAS os nad ydych wedi gallu datrys eich cwyn o fewn wyth wythnos i gwyno wrth y cwmni am y tro cyntaf, neu os yw'r cwmni wedi'ch cyfeirio chi at y cynllun.  Mae’n rhaid i chi anfon eich cais o fewn naw mis i gwyno am y tro cyntaf wrth y cwmni.

Beth allwch chi orfodi'r cwmni i’w wneud?
Os byddwn yn cytuno â'ch cwyn, gallwn ddweud wrth y cwmni am wneud unrhyw rai neu'r cyfan o'r canlynol.

  • Ymddiheuro neu roi esboniad i chi.
  • Rhoi cynnyrch neu wasanaeth i chi, neu gymryd rhyw gamau ymarferol a fydd o fudd i chi.
  • Talu hyd at £5000 (yn cynnwys TAW) i chi am unrhyw golled y gallwch brofi ichi ei dioddef. (Os na fyddwch yn hawlio arian ar eich ffurflen gais, ni fydd dim yn cael ei dalu.)

Mae gen i gŵyn sy’n ymwneud ag aelod o CISAS, ond maen nhw wedi dweud na alla i ddefnyddio CISAS.  Pam?
Efallai fod eich cwyn am un o’r materion canlynol, ac ni all CISAS ddelio â’r rhain.

  • Ffonau neu gyfarpar arall diffygiol.
  • Gwasanaethau teledu.
  • Ceblau a weirio.
  • Cynnyrch a gwasanaethau sydd wedi’u prynu neu eu rhentu oddi wrth gwmni nad yw’n aelod o CISAS.
  • Materion sydd eisoes yn cael sylw yn y llysoedd neu o dan unrhyw drefn gwyno arall.
  • Cynnwys safleoedd rhyngrwyd, galwadau ffôn, negeseuon e-bost, negeseuon testun neu unrhyw fath arall o neges.
  • Materion yn ymwneud â staff a chyflogaeth mewn cwmnïau sy’n aelodau o’r cynllun.
  • Cwynion nad oes sail wirioneddol iddynt yn ein barn ni neu sydd wedi'u gwneud dim ond i greu trafferth i gwmni.
  • Penderfyniadau busnes a wnaed gan gwmni ynghylch a ddylid darparu cynnyrch neu wasanaeth neu beidio, ac ar ba delerau y bydd yn darparu cynnyrch neu wasanaeth.

Beth os bydd y cwmni a minnau yn penderfynu setlo fy nghwyn?
Gallwch chi a’r cwmni ddatrys y mater rhyngoch unrhyw bryd cyn y bydd y dyfarnwr yn gwneud penderfyniad.  Os penderfynwch wneud hyn, byddwch chi a’r cwmni’n delio’n uniongyrchol â’ch gilydd, nid drwy’r cynllun.  Os byddwch yn setlo’r mater, bydd angen i’r cwmni adael inni wybod yn ysgrifenedig a byddwn yn cysylltu â chi i wneud yn siŵr fod y gŵyn wedi'i datrys.
 
Os byddwch chi’n dweud wrthym eich bod wedi setlo'ch cwyn gyda'r cwmni, byddwn yn cau'r achos.  Os na fydd y cwmni’n cadw at unrhyw gytundeb yr ydych wedi’i wneud ag ef, gallwch ofyn inni ailagor yr achos.

Beth os bydd y cwmni’n rhoi popeth yr wyf wedi gofyn amdano i mi?
Rhaid i’r cwmni ddweud wrthym ei fod wedi gwneud hyn ac os byddwch chi'n dweud wrthym ei fod wedi gwneud hynny, byddwn yn cau'r achos.

Fydd angen twrnai arna i?
Does dim angen twrnai arnoch ond gallwch ddefnyddio un os dymunwch. Ond allwch chi ddim hawlio unrhyw dreuliau am wasanaethau twrnai.

Pwy sy’n penderfynu ar fy nghwyn a beth mae nhw’n ei wneud?
Bydd y penderfyniad yn cael ei wneud gan ddyfarnwr sydd wedi derbyn hyfforddiant ar gyfer trin y math o gŵyn a drafodir gan CISAS, yn ogystal â hyfforddiant cyfreithiol (yn enwedig mewn cysylltiad â chytundebau defnyddwyr). Mae gwybodaeth am ddyfarnwyr i’w gael ar wefan CISAS. Bydd y dyfarnwr yn penderfynu ar eich cwyn ar sail y dystiolaeth y byddwch chi a’r cwmni yn ei rhoi iddo. Gall dyfarnwyr ofyn i chi am fwy o wybodaeth i’w helpu i wneud y penderfyniad cywir. Bydd y dyfarnwr bob amser yn ystyried eich dadleuon a’ch tystiolaeth (yn ogystal â rhai’r cwmni), ac yn penderfynu’n deg a rhesymol.

Bydd y dyfarnwr bob amser yn ystyried eich dadleuon a’ch tystiolaeth chi (a rhai’r cwmni hefyd), a bydd yn gwneud penderfyniad teg a rhesymol.

Beth fydd yn digwydd pan dderbyniaf y penderfyniad?
Unwaith y byddwch wedi derbyn y penderfyniad, bydd gennych chwe wythnos i adael inni wybod a ydych yn ei dderbyn neu beidio. Os na ddywedwch wrthym o fewn chwe wythnos, ni fydd y penderfyniad yn rhwymo’r cwmni ond gallwch fynd â'r mater i'r llys o hyd.

Os cytunaf â’r penderfyniad o fewn chwe wythnos, pryd fydd y cwmni’n cymryd y camau gofynnol?
Rhaid i’r cwmni gymryd y camau gofynnol o fewn pedair wythnos i’r dyddiad y dywedoch chi wrthym eich bod yn ei dderbyn.

Beth fydd yn digwydd os na fydd y cwmni’n cymryd y camau gofynnol?
Pan ddaeth y cwmni'n aelod o CISAS roedd yn cytuno i dderbyn a chydymffurfio â phenderfyniad y dyfarnwr.  Os rhowch wybod inni nad yw’r camau wedi’u cymryd byddwn yn atgoffa’r cwmni o’i ddyletswydd i gymryd y camau.  Os bydd yn parhau i beidio â chymryd y camau gofynnol, gallwn derfynu'i aelodaeth o CISAS.  Os gwnawn hyn, byddwn yn dweud wrth Ofcom ein bod wedi gwneud hyn

Beth yw’r drefn?
Mae'r drefn wedi'i chynllunio i fod mor gyflym a rhwydd â phosibl. 

Mae'r tudalennau nesaf yn esbonio sut y dylech wneud cais i ddefnyddio CISAS, a sut fath o dystiolaeth y bydd angen i chi ei rhoi i ni.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i’r adran ‘Cwestiynau Cyffredin’ ar ein gwefan neu ffoniwch ni ar 020 7520 3827.

Independence Integrity Impartiality

I would also like to thank you for all your help and attention. Your decision was both fair and true