Pwy sydd wedi cofrestru?

Pwy sydd wedi cofrestru?
Mae’r cwmnïau canlynol wedi cofrestru i fod yn aelodau CISAS. Os yw eich cwmni wedi dweud wrthych ei fod yn aelod o CISAS ond heb fod ar y rhestr hon cysylltwch â ni.

Os ydych chi’n ddarparwr gwasanaethau cyfathrebu ac yn awyddus i ymuno â CISAS, ewch i'n tudalen Gwybodaeth i gwmnïau .

Os nad yw eich cwmni wedi’i restru fel aelod o CISAS mae’n bosibl ei fod yn aelod o Otelo neu efallai nad yw eto’n aelod o wasanaeth datrys anghydfodau drwy ddulliau amgen cymeradwy. Os felly, dylech ei gyfeirio at Ofcom .

 

ISPA, ITSPA a FCS 
Os yw enw’r cwmni'n cael ei ddilyn gan (ISPA) (ITSPA) neu (FCS) mae’n dangos bod y cwmni hwnnw’n aelod o gorff masnach ar gyfer eu diwydiant penodol hwy.

ISPA yw Cymdeithas y Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd. Bu gan ISPA ran allweddol yn ffurfio CISAS yn 2003 ac mae'n parhau i gynnig cefnogaeth i'r gwasanaeth heddiw. 

ITSPA yw Cymdeithas Darparwyr Gwasanaethau Teleffoni’r Rhyngrwyd. Corff masnach cymharol newydd yw ITSPA a ffurfiwyd i gynrychioli darparwyr gwasanaethau teleffoni sy’n seiliedig ar y rhyngrwyd.

FCS – y Ffederasiwn Gwasanaethau Cyfathrebu – yw Cymdeithas Fasnach y DU ar gyfer y diwydiant gwasanaethau cyfathrebu sy’n cynrychioli busnesau sy’n cyflenwi cynnyrch a gwasanaethau i gwsmeriaid drwy gyfrwng teleffoni Protocol Rhwydwaith (IP), sefydlog, symudol a radio. 

 


0-9 A B C D E F G H I J K L M N O P R S T U V W X Y Z
Independence Integrity Impartiality

I would like to take this opportunity to say thank you for the professional and swift way you addressed this matter