Croeso i CISAS

Please help us to evaluate the usefulness of our website

Beth rydym yn ei wneud?

Mae CISAS yn gynllun gwneud iawn a gymeradwyir gan Ofcom. Gall unigolion a busnesau bach (cwsmeriaid) ei ddefnyddio i ddatrys anghydfodau gyda chwmnïau cyfathrebu, er enghraifft cwmnïau ffonau symudol a ffonau cartref neu ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd, sy'n aelodau o'r cynllun. 

Mae'n rhaid ichi fod yn gwsmer i aelod-gwmni er mwyn gallu defnyddio CISAS.  Am restr lawn o gwmnïau sy’n aelodau o CISAS, cliciwch yma. 

Gallwch chi ddefnyddio CISAS i ddatrys anghydfodau ynglŷn â phroblemau gyda biliau a gwasanaeth. 

Cyn anfon eich anghydfod atom mae’n rhaid eich bod wedi cwyno wrth eich cwmni ac wedi rhoi cyfle rhesymol iddo ddatrys y broblem.  Os bydd eich cwmni’n ysgrifennu atoch i ddweud nad yw’n gallu gwneud hynny neu os oes 8 wythnos wedi mynd heibio ers ichi gwyno wrthyn nhw, yna gallwch chi ddefnyddio CISAS.

Nid oes cost ichi ddefnyddio CISAS ac rydym yn darparu ffordd anffurfiol ac annibynnol i ddatrys anghydfodau.  

Bydd dyfarnwr cymwys yn ystyried yr holl wybodaeth a ddarparwyd gennych chi a’r cwmni i CISAS a bydd yn datrys yr anghydfod mewn ffordd deg a rhesymol.  Yn y rhan fwyaf o achosion, bron 9 o 10, bydd y dyfarnwr yn gwneud penderfyniad o fewn 6 wythnos inni dderbyn eich cais.  Os bydd y dyfarnwr yn penderfynu o’ch plaid gall orchymyn i’r cwmni gymryd camau i wneud yn iawn ac / neu dalu arian ichi.    Pan fyddan nhw'n ymuno â CISAS mae cwmnïau’n cytuno y byddan nhw'n glynu wrth benderfyniad y dyfarnwr os ydych chi'n dweud eich bod yn ei dderbyn.

I gael rhagor o wybodaeth am CISAS a sut mae’n gweithredu, gan gynnwys y pethau na allwn ni ddelio â nhw, gweler ein taflen Gwybodaeth i gwsmeriaid a'n rhestr o Gwestiynau Cyffredin.

Os na allwch ddod o hyd i unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi neu os hoffech inni egluro unrhyw fater neu os oes angen help arnoch chi, anfonwch e-bost at CISAS neu ffoniwch 020 7520 3814 neu ffôn testun 020  7520 3811.

Os bydd arnoch help gyda llenwi'r ffurflenni neu os bydd arnoch angen rhywbeth naill ai mewn iaith arall neu mewn fformat arall, gallwn ni wneud hynny.
Mae ein hadran Safonau Gwasanaeth yn dweud wrthoch chi beth i’w ddisgwyl gan CISAS.

Independence Integrity Impartiality

I would like to take this opportunity to say thank you for the professional and swift way you addressed this matter